Yr Egwyddor Proffwydo – Un rheol i wneud popeth rydych chi’n ei ysgrifennu yn haws ei ddarllen

llaw yn sgrifennu

Un o’n mecanweithiau goroesi mwyaf effeithiol fel bodau dynol yw ein gallu i broffwydo. Rydym yn ei wneud drwy’r amser, yn gwneud cyfres o ragdybiaethau am sut fydd sefyllfa benodol cyn i ni gamu mewn iddi. Wrth arsylwi chwaraewyr pêl fas mae gwyddonwyr ym maes chwaraeon wedi sylwi ni all batiwr weld y bêl yn dod ato – maent yn proffwydo lle y dylid bwrw ar sail cyfres o arwyddion gan y taflwr. Gorau oll y gallai broffwydo gorau oll fydd ei berfformiad.

Nid yw hyn yn wir ar gyfer chwaraewyr pêl fas yn unig. Y gorau y gallwn broffwydo sefyllfa rydym ynddi – boed yn mynd i’r gwaith, cymryd rhan mewn seminar neu hyd yn oed gwylio ffilm, y mwyaf cyffyrddus y byddwn a bydd modd cyflawni pa bynnag dasg yn well.

Felly sut mae hyn yn gysylltiedig ag ysgrifennu?

Yr ateb yw gosod eich hun yn esgidiau eich darllenwr. Po fwyaf y gall broffwydo am eich ysgrifennu y mwyaf y bydd yn deall, prosesu a chofio am yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu.

Mae proffwydo yn gwneud bywyd yn haws a’r ysgrifenwyr gorau yw’r rhai sy’n ei gwneud yn haws i’r darllenydd broffwydo’r hyn sydd i ddod yn y testun. Sylwer nad ydym wedi dweud yr ysgrifenwyr academaidd gorau – mae’r rheol proffwydo hwn yn wir ar gyfer bron pob math o ysgrifennu, o negeseuon e-bost a negeseuon testun i adroddiadau ac erthyglau papurau newyddion. (Efallai mai ffuglen yw’r un eithriad lle y mae mwyafrif y gelfyddyd yn cynnwys peidio â datgelu’r wybodaeth gywir i gadw’r darllenydd i ddyfalu).

Felly sut allwch chi ei wneud yn haws i’r darllenwyr broffwydo’r hyn sydd i ddod nesaf?

Rhywfaint o eiriau o gyngor (ar gyfer ysgrifennu academaidd) fyddai:

Rhagymadroddion a chrynodebau – Sicrhewch fod y rhain yn amlinellu eich dadl yn glir a’r llwybr y byddwch yn ei ddilyn i gyrraedd yno. Peidiwch â chadw gwybodaeth yn ôl ar gyfer y diweddglo – ar ôl darllen rhagymadrodd da yna dylai eich darllenydd wybod yn union i le y byddwch yn ei dywys erbyn diwedd y traethawd.

Penawdau Paragraffau – Hefyd a elwir yn frawddegau pwnc. Dylai brawddegau cyntaf eich paragraff amlinellu’n glir yr hyn y dylai’r darllenydd ei ddisgwyl dros y brawddegau dilynol. Felly, er enghraifft, pe bawn i’n dechrau paragraff trwy ysgrifennu ‘Mae Abertawe yn lle gwell i fyw na Chaerdydd am dri rheswm’ byddai’r hyn y byddwch yn ei ddisgwyl yn y paragraff nesaf yn amlwg. Mewn gwirionedd dylai fod yn bosib i ddarllenydd ddarllen y rhagymadrodd a ‘brawddegau pwnc’ eich traethawd yn unig i ddilyn eich trafodaeth.

Ar lefel brawddegau – Mae’r rheol proffwydo hefyd yn gweithio ar lefel brawddegau. Mae geiriau cysylltiol syml megis ‘fodd bynnag’, ‘serch hynny’ a ‘felly’ yn helpu eich darllenydd i broffwydo’r math o wybodaeth sy’n dod nesaf: a yw’n cyferbynnu â’r hyn a nodwyd eisoes neu’n ei atgyfnerthu; a yw’n cyflwyno pwynt newydd neu’n cadarnhau’r un rydych eisoes wedi’i wneud?

Pwysig

Un peth allweddol i’w nodi yma yw gwireddu eich addewidion. Os yw darllenydd yn aros am y tri rheswm hynny ac rydych yn rhoi dau yn unig iddo gall hynny achosi yr un dryswch a phe baech heb roi unrhyw gyfarwyddyd o gwbl.

Arwain y Dall

Un gyfatebiaeth a ddefnyddir yn aml ar gyfer y syniad hwn yw dychmygu eich bod yn tywys person dall trwy adeilad prysur. Efallai y byddwch yn cydio yn ei law a rhoi arweiniad cyson iddo megis ‘Rydym yn mynd i gymryd tri cham ymlaen yna stopio. Rwy’n mynd i agor y drws, byddwn yn cerdded trwyddo ac yn troi i’r chwith.’ Dysgwch ddechrau meddwl am eich darllenydd yn yr un ffordd. Ar bob cam dylai fod yn sicr o le ei fod yn mynd a’r hyn y bydd yn ei wneud nesaf.

Y Tu Hwnt i’r Byd Academaidd

Fel yr ydym eisoes wedi’i adnabod, nid yw hyn ar gyfer ysgrifennu academaidd yn unig ond yn hytrach i’r mwyafrif o ysgrifennu a chyfathrebu rydych chi’n ei wneud. Rhowch linellau pwnc clir i’ch negeseuon e-bost sy’n crynhoi’r cynnwys a bydd eich ffrindiau a’ch cydweithwyr yn diolch i chi. Dechreuwch eich adroddiadau trwy grynodeb byr a bydd eich darllenwyr yn llawer mwy tebygol o ddeall y canlyniadau.

Defnyddiwch yr egwyddor hon ar gyfer pob peth rydych chi’n ei ysgrifennu a gwyliwch sut mae pobl eraill yn ysgrifennu – o bapurau newyddion i flogiau i gyfnodolion academaidd – gwnewch yr un peth.

Ydych chi’n dymuno gwella eich Ysgrifennu Academaidd? Cofrestrwch ar ein Cwrs Ysgrifennu Traethodau Israddedig yma.

Neu ewch i PASS i dderbyn mwy o gyngor ar wella eich ysgrifennu.

Advertisements

Beth yw rhethreg a pham ydyw’n bwysig?

microphone

Yn syml, rhethreg yw’r gelfyddyd o ddwyn perswâd. Mae’n bresennol ym mhob agwedd o’n bywydau (wrth annog darpar bartner i ymuno â chi am bryd o fwyd, wrth ofyn am fenthyg car eich rhieni, wrth argyhoeddi ar blentyn i fynd i’r gwely neu wrth ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu ei gadael).

Yn ddiweddar, defnyddir rhethreg yn yr ystyr ddifrïol; fodd bynnag nid yw bod amser wedi bod â chysylltiadau negyddol. Yn aml caiff ei rhagflaenu gan dermau megis ‘gwag’ i ddisgrifio atebion sy’n aml yn llyfn ac yn cuddio’r gwir a roddir gan wleidyddion i gwestiynau sy’n ymddengys i fod yn rhai syml.

Mae’n bwysig gwybod bod rhethreg yn llawer mwy nag arddull siarad ac nid yw’n ffenomen negyddol reddfol. Yn nhermau ffurfio astudiaethau rhethreg mae arnom ddyled fawr i athronwyr Groeg yr henfyd.

Caiff datblygu rhethreg yn aml ei olrhain i ddau ffigwr Sisilaidd o’r enw Corax a Tisias. Yn ôl y chwedl, roedd Corax (Groegaidd: Brân) yn llefarydd enwog – bu’n cynrychioli pobl yn ystod dadleuon barnwrol ac roedd ymhlith y rhai cyntaf i ddyfeisio system lle y gellid deall y gelfyddyd o ddwyn perswâd. Gan fod yn ymwybodol o enwogrwydd a ffortiwn Corax (oherwydd câi ei dalu am ei ymdrechion), roedd Tisias yn awyddus i ddysgu sgiliau rhethreg fel y gallai hefyd droi ei law at gynrychiolaeth gyfreithiol. I’r diben hwnnw, cyflwynodd Tisias gynnig i Corax gan ddweud: ‘dysgwch sgiliau rhethreg i mi a thalaf am y cwrs ar ôl i mi ennill fy achos cyntaf’. Cytunodd y ddau ar y telerau hyn. Yn hwyrach, fodd bynnag, cafwyd dadl pan wrthododd Tisias dalu Corax gan ddweud bod addysgu Corax mor ddi-glem ac analluog fod Tisias wedi methu â dysgu dim. Clywyd yr achos gerbron llys Groeg yr henfyd. Bu’n rhaid i Corax a Tisias baratoi eu dadleuon.

Wrth gyflwyno’r achos cyflwynodd Tisias y ddadl ganlynol: ni ddylai fod angen iddo dalu Corax ar gyfer y cwrs am fod yr addysgu mor wael. Pe bai’n methu ag argyhoeddi ar y llys ei fod yn gywir yna dylai ennill yr achos oherwydd byddai ei berfformiad gwael yn dyst o’i ddiffyg sgiliau rhethregol – ac yn dystiolaeth bod Corax yn athro gwael. Pe bai Tisias yn llwyddo i argyhoeddi ar y llys (a dangos y sgiliau rhethreg sydd eu hangen er mwyn argyhoeddi arnynt) yna ei ddadl oedd y byddai’r sgiliau hyn wedi cael eu datblygu er gwaethaf addysgu Corax yn hytrach nag o’i herwydd.

I’r gwrthwyneb, sail dadl Corax oedd pe bai Tisias yn colli, ei anallu ei hun fyddai ar fai a phe bai’n ennill byddai’n dangos bod gwersi Corax wedi bod yn effeithiol. Fel y digwyddodd, cafodd yr achos ei daflu o’r llys ond dengys y chwedl y gall rhethreg fel disgyblaeth gael ei holrhain i’r pwynt yma mewn hanes os nad cyn hynny. Yn ogystal â hyn mae’n dangos y gall rhethreg fel pwnc gael ei rhannu, ei haddysgu, ei hastudio a’i dysgu. Roedd astudio rhethreg yn arfer bod yn rhan o addysg glasurol. Enw’r sylabws oedd y trifiwm ac roedd yn cynnwys gwersi ffurfiol mewn tri phrif faes: gramadeg, rhesymeg a rhethreg.

Er bod addysgu rhethreg fel rhan o addysgu ffurfiol a chyffredin wedi dod i ben erbyn y cyfnod i mi fod yn ddigon hen i fynychu’r ysgol, nid yw hynny’n golygu bod gan y ffenomen lai o gyffredinolrwydd na phwysigrwydd yn ein bywydau heddiw. Gall astudio rhethreg heddiw fod o fwy o bwys nac mewn unrhyw gyfnod arall mewn hanes. Caiff ei gweld ym mhobman. Yn yr oes wybodaeth lle y ceir newyddion 24 awr a chaiff dadleuon eu cwtogi i 140 o nodweddion ar Twitter neu eu cyfleu trwy meme, dealltwriaeth o rethreg yw, mewn ffordd, llythrennedd gwybodaeth. Ni chredaf mai gormodiaith fyddai datgan bod ein democratiaeth yn dibynnu ar lythrennedd o’r fath. Yn ogystal â rhoi’r sgiliau a fydd eu hangen arnoch i ddadadeiladu a gwerthuso dadleuon, mae llythrennedd rhethreg yn eich galluogi i adeiladu eich dadleuon argyhoeddiadol eich hun: a fydd o fudd mawr i chi yn y brifysgol a’r tu hwnt iddi.

Am cwrsiau yn y dyfydol, ewch yma.

Llunio Cyflwyniad: Arweiniad ar gyfer Strwythuro

Yn ystod dosbarthiadau ac apwyntiadau sgiliau cyflwyno’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd yn aml bydd pobl yn gofyn i mi am eiriau o gyngor i wella eu cyflwyniadau. Fy ymateb mwyaf aml yw ‘meddyliwch am y strwythur yn ofalus’. Bydd y mwyafrif o bobl yn ceisio cynnwys llawer o ffeithiau a gwybodaeth ddiddorol yn eu cyflwyniadau heb feddwl am y fframwaith er mwyn cyfleu’r wybodaeth honno i’r gynulleidfa. Mae hon yn broblem oherwydd oni bai bod y strwythur yn glir iawn bydd pobl yn mynd ar goll yn gyflym ac nid oes modd iddynt ddehongli’r wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno mewn ffordd ddefnyddiol.

silhouette of man presenting

Yn aml byddaf yn gwneud cyfatebiaeth yn fy meddwl rhwng adeiladu adeilad a llunio cyflwyniad. Ar gyfer adeiladau, yn gyntaf mae’n rhaid i’r pensaer ddylunio fframwaith cadarn a deniadol cyn i’r adeiladwyr osod y deunyddiau. Pe bai’r adeiladwyr yn defnyddio’r deunyddiau cyn i’r pensaer gael cyfle i ddylunio unrhyw beth yna pentwr o bren, briciau a sment fyddai gennych chi. Yn yr un ffordd mae angen bod cyflwynydd wedi llunio fframwaith ar gyfer y wybodaeth cyn ei gysylltu ynghyd er mwyn i’r negeseuon fod yn glir a chofiadwy.

Wrth gwrs, mae llunio fframwaith ar gyfer cyflwyniad yn llawer haws na dylunio adeilad. Mewn gwirionedd, mae’n gwestiwn o fod ag adrannau amlwg â chyfeirio clir rhyngddynt. Fel arfer, mae cyflwyniadau sydd wedi’u strwythuro’n glir yn rhoi rhagymadrodd sy’n cyflwyno’r siaradwr, yn disgrifio’r mater ac yn bwysicaf oll yn cynnwys datganiad amlinellol sy’n disgrifio beth fydd prif bwyntiau’r cyflwyniad. Yna bydd y siaradwr yn symud i’r prif bwyntiau, tri ohonynt fel arfer ar gyfer cyflwyniad 10 i 15 munud er gellid cynnwys is-bwyntiau hefyd. Yn olaf bydd y siaradwr yn cynnwys diweddglo sy’n crynhoi’r prif bwyntiau ac sy’n cynnwys rhywbeth i’w feddwl amdano ar y diwedd gan obeithio atgyfnerthu pam bod yr holl wybodaeth hon yn ddefnyddiol mewn ffordd ddiddorol.

Rhwng y rhagymadrodd, pob un o’r prif bwyntiau a’r diweddglo bydd y siaradwr yn defnyddio pontio clir. Fel arfer y mae’r rhain yn cynnwys ychydig o frawddegau sy’n crynhoi’r wybodaeth flaenorol ac sy’n arwain y darllenydd i brif bwynt newydd. I wneud cyfatebiaeth arall i adeilad, y prif bwyntiau yw lloriau’r adeilad, yna y pontio yw’r grisiau rhyngddynt; maent yn caniatáu i’r siaradwr fynd â’r gynulleidfa o un pwynt i’r llall. Mae pontio rhwng adrannau mewn cyflwyniad yn union fel ceisio cysylltu paragraffau mewn traethawd fel bod y wybodaeth yn glir ac yn hawdd ei dilyn. Heb bontio clir gall y gynulleidfa fynd ar goll. Os nad ydych yn sicr o ran pa fath o iaith i’w defnyddio, peidiwch â phoeni ceir llwyth o ‘ymadroddion pontio’ sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan siaradwyr er mwyn cadw’r gynulleidfa ar ben y trywydd cywir wrth iddynt symud rhwng adrannau. Edrychwch yma fel man cychwyn: http://sixminutes.dlugan.com/speech-transitions/

Nid gwyddoniaeth rocedi mo’r pethau fy mod wedi’u trafod yma, mewn gwirionedd maent yn bethau syml iawn ond cewch eich synnu faint o bobl sy’n methu â dilyn y rheolau syml hyn wrth draethu ond yn hytrach cyflwynir llwyth o wybodaeth anamlwg sy’n achosi i’r gynulleidfa deimlo’n rhwystredig. Felly, y tro nesaf y byddwch yn llunio cyflwyniad, treuliwch amser yn meddwl am eich prif adrannau a’ch pontio a siŵr o fod y daw eich cyflwyniad yn llawer cliriach.

Os ydych chi’n dymuno dysgu mwy am roi cyflwyniadau neu hoffech ymarfer cyflwyno i grŵp yna dewch i ddosbarthiadau Sgiliau Cyflwyno’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd.

 

Awgrymiadau am Fagu Hyder i Siarad yn y Dosbarth

boy skateboarding

gan Dean Hochman @ flickr (CC BY 2.0)

Fel myfyriwr, beth yw’ch ofn mwyaf? Byddai methu arholiadau ac asesiadau’n debygol o fod ar frig y rhestr ar gyfer llawer. Ond beth am bryderon yn eich bywyd o ddydd i ddydd fel myfyriwr? Un ofn sydd efallai’n eithaf cyffredin yw codi’ch llais yn y dosbarth, boed i ateb neu i ofyn cwestiwn. Roedd hyn yn wir yn bendant pan oeddwn i’n astudio yn y brifysgol, ac roedd y tawelwch annifyr iawn yn ein gwersi cemeg yn dyst i hyn. Ac er nad ydw i’n meddwl bod darlithoedd yn lleoedd  arbennig o frawychus, mae llawer o bobl yn dal i deimlo’n nerfus am siarad yn uchel. Mae hynny’n drueni, oherwydd gall holi ac ateb fod yn rhan ddefnyddiol o ddarlith. Mae cwestiynau’n rhoi cyfle i chi gael eglurhad am unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall. Gall siarad mewn darlithoedd a rhyngweithio â’r darlithydd wneud darlith yn fwy difyr hefyd a helpu’r darlithydd i gyfathrebu â’r gynulleidfa.

Felly, beth gallwch ei wneud i deimlo’n fwy cyfforddus am hyn? Ar gwrs sgiliau cyflwyno’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd, rydym yn trafod sut i fagu hyder a lleihau nerfau wrth gyflwyno. Gall rhai o’r camau gweithredu y gellir eu cymryd i leihau nerfau fod yn ddefnyddiol hefyd wrth ofyn ac ateb cwestiynau mewn darlith (wedi’r cwbl, dim ond math arall o siarad yn gyhoeddus yw hyn). Un peth defnyddiol yw gweld yr amser holi ar ddiwedd y ddarlith fel cyfle yn hytrach na bygythiad. Rydych chi wedi gweithio’n galed i gael lle yn y brifysgol, felly beth am fanteisio i’r eithaf ar y cyfle? Mae’n bosib na fydd llawer o gyfleoedd eraill mewn bywyd i ofyn cwestiynau a dysgu gan arbenigwr mewn maes rydych yn ymddiddori ynddo. Gallai paratoi cwestiwn ymlaen llaw fod yn gam defnyddiol. Hefyd, mae’n bwysig peidio â phoeni gormod beth bydd pobl eraill yn ei feddwl am eich cwestiwn. Rwyf wedi benthyca’r egwyddor ‘beiddiwch fod yn ddi-nod’ o sgwrs Matt Abrahams ar dechnegau cyfathrebu a allai fod yn briodol yma. Weithiau, mae’r risg o ddweud rhywbeth twp a phobl yn meddwl eich bod yn ddwl yn codi ofn arnom; ond mae’n debygol y byddai’n ddoethach i’r rhan fwyaf ohonom anwybyddu’r risg hon a gofyn cwestiwn yn hytrach na chadw’n dawel. Ar ben hyn, hyd yn oed os byddwch yn dweud rhywbeth braidd yn amherthnasol, mae gwneud camgymeriadau’n rhan o’r profiad dynol. Mae fideo ‘Ysgol Bywyd’ am ‘sut i fod yn hyderus’ yn trafod camgymeriadau a hyder yn fanylach.

Un peth arall a allai eich helpu i ateb cwestiynau yw creu rhyw fath o fframwaith i strwythuro ateb. Os bydd y cwestiwn yn gofyn am eglurhad, ffordd dda o strwythuro’ch ateb allai fod ei roi ar ffurf paragraff: cyflwynwch y pwnc; darparwch eglurhad a/neu dystiolaeth; rhowch eich casgliad. Dylai dilyn y strwythur hwn eich helpu i lunio ateb rhesymegol.

Ar ôl i chi ddechrau gofyn ac ateb rhagor o gwestiynau, byddwch yn debygol o weld y cyfle sydd gennych fel myfyriwr yn y ddarlithfa yn gliriach, a byddwch yn dechrau mwynhau darlithoedd yn well. Mae’n debygol hefyd, po fwyaf rydych yn siarad, mwyaf hyderus byddwch yn teimlo, a fydd un fanteisiol, nid yn unig yn eich  astudiaethau, ond yn eich bywyd proffesiynol hefyd.

Wedi dweud hynny, un peth olaf dylwn ei bwysleisio am fynd i ddarlithoedd a gofyn cwestiynau yw pwysigrwydd gwrando. Mae’r cwestiynau gorau’n cael eu gofyn gan bobl sy’n gwrando ac sydd wedi paratoi’n effeithiol ar gyfer y ddarlith. Os ydych yn mynd i’r drafferth o fynd i’r ddarlith man a man i chi wneud ymdrech i baratoi a gwrando hefyd.

Os hoffech ddysgu mwy am gyflwyno a siarad yn gyhoeddus, neu os hoffech ymarfer rhoi cyflwyniadau mewn amgylchedd cefnogol, cofrestrwch ar gyfer Dosbarth Sgiliau Cyflwyno’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd.

 

Pŵer Dysgu Ysbeidiol – Sut gall un tric syml eich helpu i ddysgu mwy mewn hanner yr amser.

Mae’n swnio’n rhy dda i fod yn wir ond ydy? Ond mae gwyddoniaeth wedi profi dro ar ôl tro bod estyn eich sesiynau dysgu dros gyfnod amser yn ffordd lawer mwy effeithiol o astudio na cheisio gwneud popeth ar yr un pryd.

Hanes Dysgu a Chof

Yn ôl yn y 1880au, dechreuodd gwyddonydd o’r enw Ebbinghaus gynnal cyfres o arbrofion ar effaith amser ar gof. I wneud hyn, ysgrifennodd gannoedd o ‘sillau disynnwyr’ wedi’u trefnu’n grwpiau o 12, a phrofodd ei allu i’w hadalw. Y canlyniad –  na ddylai fod yn syndod i neb –  oedd bod y geiriau disynnwyr wedi dod yn fwy anodd eu cofio gydag amser. Plotiodd ei ganlyniadau ar graff, a galwodd ei ganfyddiadau ‘Cromlin Anghofio’.

Picture of Ebbinghaus

Pe bai Ebbinghaus wedi gorffen ei arbrofion yno, mae’n ddigon tebygol na fyddai neb yn cofio amdano nawr. Ond, drwy gydol ei ymchwil, daeth ar draws rhywbeth sy’n dal i fod yn un o’r darganfyddiadau pwysicaf erioed ym maes dysgu.

Roedd Ebbinghaus am wybod faint o waith byddai angen ei wneud cyn y gallai gofio rhywbeth yn gyson. Darganfu fod angen ailadrodd rhestr o sillau disynnwyr 68 o weithiau cyn y gallai sgorio 100% yn gyson mewn prawf a osododd iddo ei hun wythnos wedyn. Unwaith eto, mae’n debygol nad oes dim byd newydd yno – rydym i gyd yn gyfarwydd â’r syniad bod rhywbeth yn fwy tebygol o aros yn y cof drwy ei ailadrodd dro ar ôl tro.

Ond, canfu hefyd y gallai sgorio 100% mewn prawf drwy ailadrodd rhywbeth 38 o weithiau yn unig, pe bai’n dosbarthu’r ailadroddiadau hyn dros amser. Felly, er enghraifft, gallai ailadrodd y rhestr 13 o weithiau un diwrnod, 13 o weithiau’r diwrnod nesaf a 12 y diwrnod wedyn. Mae hynny bron hanner yr amser yn astudio, ond canlyniad gwell. A dyna rywbeth a ddylai apelio at bawb!

Mae gwyddoniaeth wedi ymchwilio ymhellach i’r darganfyddiad hwn ac wedi canfod bod ysbeidiau optimaidd ar gyfer dosbarthu eich dysgu. Dywedwn eich bod am ddysgu rhestr o eiriau newydd mewn iaith newydd.

I gael y perfformiad gorau posib, dewch yn ôl at y deunydd rydych am ei ddysgu ar ôl ysbeidiau o un diwrnod, un wythnos, yna un mis.

Pam mae’n gweithio

Mae’n bosib eich bod wedi clywed y syniad o’r blaen – po fwyaf rydych yn meddwl am syniad, mwyaf y caiff ei wreiddio yn eich meddwl. Gallech weld y meddyliau hyn fel llwybrau drwy gae o wair – po fwyaf rydych yn cerdded ar eu hyd, mwyaf sefydledig y byddant.

O ran dysgu – dychmygwch fod angen i chi gofio dyddiadau nifer o achosion cyfraith pwysig. Os ydych yn ailymweld â’r deunydd bob dydd, mae’n debyg i gerdded i lawr yr un llwybr bob dydd. Ni fydd y llwybr yn newid gormod oherwydd yr oedd yno ddoe hefyd. Ond, dywedwch eich bod yn ei adael am wythnos. Pan ddychwelwch iddo, mae’r llwybr wedi tyfu’n wyllt a bydd angen i chi weithio’n fwy caled i gerdded drwy’r gwair. Efallai y bydd angen pladur arnoch, neu o leiaf esgidiau mwy. Ond erbyn diwedd y gwaith caled hwnnw, bydd gennych lwybr dyfnach o lawer – un y bydd yn haws cerdded ar ei hyd y tro nesaf i chi ddod y ffordd hon.

Mae’r un peth yn wir am ddysgu – po fwyaf caled bydd angen i chi weithio i adalw gwybodaeth i gof, mwyaf bydd y cynnydd yn eich dysgu. Mae damcaniaeth yn bodoli o’r enw Desired Difficulty – sy’n dweud yn syml y dylech wneud dysgu’n anodd i chi eich hun i gynyddu’ch gallu i adalw gwybodaeth.

Cam Gweithredu

Pryd bynnag byddwch yn astudio rhywbeth newydd, gwnewch nodyn mewn calendr neu ddyddiadur i adolygu’r deunydd hwnnw ar ddyddiad diweddarach. Cofiwch, dylai’r ysbaid cyntaf fod yn weddol fyr, yna gallwch gynyddu’r amser rhwng sesiynau dysgu yn raddol. Mae 1 diwrnod, 3 diwrnod, 1 wythnos, 1 mis yn gymhareb dda i roi cynnig arni i ddechrau. Does dim rhaid i chi ddilyn yr union gymarebau hyn – mae unrhyw ddosbarthu’n well na dim.

Os nad ydych chi wedi arfer â defnyddio dyddiadur neu galendr – mae meddalwedd gwych ar gael i’ch helpu i fod yn drefnus.

https://www.supermemo.com/ yw’r meddalwedd a ddeilliodd yn uniongyrchol o ganfyddiadau Wozniak (y myfyriwr meddygaeth Pwylaidd y cyfeiriais i ato).

http://ankisrs.net/ dyma un arall sy’n cael ei argymell – dwi ddim wedi treulio llawer o amser yn ymchwilio i hyn, ond dwi’n meddwl ei fod yn caniatáu i chi amserlennu’ch cardiau fflach atgoffa.

I ddysgu rhagor o Haciau Astudio a systemau dysgu – gwnewch ein cwrs ar-lein, ‘Dysgu Sut i Ddysgu’

Cofrestrwch ar gyfer ein gweithdai Haciau Astudio.

5 Gwefan ac Ap am ddim i’ch helpu i ddysgu Saesneg (neu unrhyw iaith arall)

Mae cynifer o adnoddau defnyddiol ar y rhyngrwyd sy’n gallu eich helpu i ddysgu Saesneg ond pan siaradaf â dysgwyr mae’n amlwg nad yw llawer o bobl yn gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd ar gael. Isod ceir rhestr o bum ap a gwefan ddefnyddiol sy’n gallu gwella eich sgiliau yn y Saesneg.

quizlet

  1. Quizlet. Dyma wefan ac ap sy’n eich galluogi i greu ‘cardiau fflach’ ar gyfer geiriau neu ymadroddion. Mae cerdyn fflach yn gerdyn sy’n nodi’r gair neu’r ymadrodd ar un ochr a’r ystyr ar yr ochr arall. Mae hyn yn ddefnyddiol i’ch helpu i gofio geirfa newydd. Gallwch lawrlwytho’r ap Quizlet i’ch ffôn. Pan ddewch o hyd i eirfa newydd gallwch ei ychwanegu i’r rhestr eirfa a chynnal gweithgareddau gwahanol i brofi eich hun. Gall y gweithgareddau brofi dealltwriaeth o ystyr, sillafu ac ynganu.

 

  1. Evernote. Wrth i chi ddarllen neu glywed geirfa newydd mae’n ddefnyddiol i chi ei hysgrifennu mewn llyfr nodiadau. Yn hytrach na defnyddio pen a phapur, erbyn hyn, gallwch ddefnyddio Evernote, sef llyfr nodiadau ar gyfer eich ffôn. Mae’r ap Evernote yn eich galluogi i wneud nodiadau trwy ysgrifennu, siarad neu dynnu lluniau. Yna gallwch edrych ar eich nodiadau’n rhwydd ar eich ffôn i adolygu’r eirfa newydd.

 

  1. Lyrics Training. Dyma wefan sy’n gallu helpu eich sgiliau gwrando a sillafu. Mae llawer o ganeuon Saesneg (ac ieithoedd eraill) arni. Gallwch wrando ar y caneuon a darllen geiriau’r caneuon ar yr un pryd. Fodd bynnag ceir bylchau lle y mae’r geiriau ar goll ac mae’n rhaid i chi lenwi’r bylchau trwy deipio’r geiriau coll. Os nad oes modd i chi lenwi’r bylchau bydd y gân yn stopio. Dyma ffordd hwyl i ymarfer eich dysgu.

 

  1. LibriVox. Dyma wefan sydd â llyfrau sain am ddim a gallwch eu defnyddio er mwyn ymarfer eich sgiliau gwrando. Gallwch hefyd chwilio am fersiwn destun y llyfr a darllen a gwrando ar yr un pryd. Gall darllen a gwrando ar yr un pryd eich helpu i ddysgu sut i ynganu geiriau a’ch helpu i ddeall strwythur yr iaith yn well.

  Librivox

  1. 6 Minute English. Mae hon yn rhan o wefan y BBC ar gyfer dysgu Saesneg. Mae ganddi lawer o drafodaethau sydd wedi’u recordio a phob un yn para am ryw 6 munud. Mae’r trafodaethau wedi’u dylunio i’ch helpu i ddysgu geirfa newydd. Gallwch lawrlwytho’r podlediad a gwrando arno ar eich ffôn. Hefyd mae trawsgrifiad ar gyfer pob trafodaeth felly gallwch ddarllen a gwrando ar yr un pryd.

 

Mae’r holl declynnau hyn ar gael i’w defnyddio a’u lawrlwytho am ddim. Efallai y bydd yn cymryd amser i chi ddod i’r arfer â’u defnyddio ond ar ôl i chi ddechrau gwneud yr ymdrech i’w defnyddio siŵr o fod y byddant yn dod yn rhan o’ch arferion bob dydd ac yn eich helpu i wella eich geirfa a’ch sgiliau. Gosodwch darged o roi cynnig ar ddefnyddio un yn rheolaidd am wythnos neu ddwy a gweld beth ddaw ohoni!

Os hoffech ymarfer eich Saesneg yna gofrestrwch ar gyrsiau’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a chyrsiau Iaith Saesneg y Rhaglen Llwyddiant Academaidd sy’n cael eu cynnal yn eich adran.

3 Chanllaw Cyflym i Wneud y Defnydd Gorau o Ddelweddau mewn Cyflwyniad

Gall delweddau ychwanegu at gyflwyniad drwy helpu i esbonio pwynt neu ei wneud yn fwy cofiadwy. Maen nhw hefyd yn gwneud i’ch cyflwyniad ymddangos yn fwy deniadol ac yn fwy diddorol. Serch hynny, ar adegau gall delweddau dynnu oddi wrth gyflwyniad am eu bod yn y lle anghywir neu oherwydd ansawdd gwael.

Mae nifer mawr o adnoddau ar gael ar-lein sy’n cynnig gwybodaeth am elfennau sleid PowerPoint da, a’r ffordd orau o gyflwyno delweddau. Ond dyma dri chanllaw cyflym a hawdd i wneud y gorau o’r delweddau y penderfynwch eu defnyddio.

1: Ystyriwch osod delweddau mewn fframiau

Gall tynnu llinell a/neu ffrâm gysgod o gwmpas eich delwedd ei helpu i ddenu sylw’n fwy effeithiol.

Pres img1

2: Ystyriwch ddefnyddio’r ddelwedd fel cefndir.

Gall hyn wneud i’ch sleidiau edrych yn fwy deniadol a phroffesiynol. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd os yw’r ddelwedd yn cynrychioli’r pwynt yn y sleid mewn modd mwy haniaethol. Fodd bynnag, byddwch yn ofalus bod modd darllen y testun o hyd. Un ffordd o helpu i sicrhau bod y testun yn denu sylw yw ychwanegu petryal tryloyw rhwng y ddelwedd yn y cefndir a’r testun. Gallwch addasu pa mor dryloyw yw’r petryal i sicrhau bod y testun yn fwy amlwg yn erbyn y cefndir.

Pres img2

3: Aliniwch y ddelwedd i dynnu sylw

Yn aml bydd ffotograffwyr yn fframio eu delweddau drwy eu rhannu’n draeanau ac yn gosod y prif wrthrych yn y llun ochr yn ochr ag un o’r llinellau fertigol neu orweddol. Gallwch chi wneud yr un peth ar gyfer sleidiau. Y pwyntiau lle mae’r llinellau’n croesi sy’n denu’r sylw mwyaf.

Pres img3

Mae dylunio sleidiau’n broses oddrychol, ond dwi’n meddwl y gall y canllawiau hyn eich helpu i ddefnyddio delweddau’n well. Rhowch gynnig arnynt yn eich cyflwyniad nesaf a gweld sut mae’n newid.

Os hoffech ddysgu rhagor am ddylunio sleidiau da a rhoi cyflwyniadau da, cofrestrwch ar gyfer dosbarth Sgiliau Cyflwyno’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd.

 

Amser Arholiadau – Adolygu Cynhyrchiol

open pen on notebook and book

Gyda’r arholiadau’n prysur agosáu, mae adolygu’n hollbwysig. Ond, wrth feddwl am adolygu, ansawdd sy’n bwysig, nid faint rydych yn ei wneud: adolygu’n effeithiol, yn lle gor-adolygu. Yn hytrach na symud i mewn i’r llyfrgell am yr ychydig wythnosau nesaf ac adolygu 10 awr y dydd, mae’n bwysig gosod nodau adolygu realistig a neilltuo amser i ymlacio hefyd. Dyma rai awgrymiadau sut gallwch gyflawni hyn.

 

  1. Gwnewch restr o’r pethau mae angen eu hadolygu ar gyfer pob arholiad. Dylai papur arholiad ymarfer a/neu hen bapurau for ar gael i chi i’ch helpu i wneud hyn.

 

  1. Penderfynwch ba bynciau mae angen treulio mwy o amser arnynt. Gallech rannu’r pynciau ar sail system ‘goleuadau traffig’:

Gwyrdd – pynciau rydych yn teimlo’n hyderus amdanynt/rydych wedi eu hadolygu eisoes

Oren – pynciau mae angen i chi ailymweld â nhw/eu hadolygu rhagor

Goch  – pynciau nad ydych yn hyderus amdanynt ac mae angen treulio rhagor o amser arnynt

  1. Ar ddechrau pob wythnos, penderfynwch pryd byddwch yn adolygu. Os oes modd, yn hytrach na neilltuo diwrnodau cyfan ar gyfer adolygu, neilltuwch ychydig oriau bob dydd, wedi’u dosbarthu mor gyfartal â phosib. Mae Rowena Murray yn siarad am fyrbrydau ysgrifennu yn hytrach na gloddesta ar ysgrifennu – mae ysgrifennu mewn cyfnodau byr dwys (30 munud hyd yn oed) yn fwy cynhyrchiol na threulio oriau maith yn ysgrifennu ar y tro. Mae’r un peth yn wir am adolygu – mae neilltuo wyth hanner awr bob dydd am adolygu yn fwy cynhyrchiol nag un sesiwn pedair awr. Manteisiwch i’r eithaf ar sesiynau adolygu 30 munud.
  1. Ar ôl i chi benderfynu pryd byddwch yn adolygu yn ystod yr wythnos, ymrwymwch i’r amserau hyn. Ysgrifennwch nhw yn eich dyddiadur/calendr a meddyliwch am yr amserau hyn fel apwyntiadau nad oes modd eu had-drefnu. Os bydd rhywun yn gofyn i chi fynd am baned yn yr amserau hyn, dywedwch na a threfnwch amser arall.

 

  1. Neilltuwch bob un o’ch sesiynau adolygu ar gyfer pwnc penodol. Sicrhewch fod yr amser rydych yn ei neilltuo ar gyfer pwnc yn briodol i lefel ei flaenoriaeth. Er enghraifft, dylech roi mwy o amser i bynciau sydd wedi’u lliwio’n goch na phynciau gwyrdd.

pomodorotechnique-logo

  1. Os ydych wedi trefnu un sesiwn adolygu hir, sicrhewch eich bod yn cael llawer o seibiannau byr. Er enghraifft, rhannwch sesiwn adolygu dwy awr yn bedwar hanner awr, gyda seibiannau 5-10 munud rhwng pob un o’r sesiynau adolygu hanner awr. Dyma’r Dechneg Pomodoro sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer rheoli amser a chynyddu cynhyrchiant. Mae’n golygu gosod amserydd am gyfnod penodol (25 neu 30 munud fel arfer) – rhoddir yr enw ‘Pomodoro’ i bob un o’r rhain. Dylech gymryd seibiant 5 munud ar ôl pob Pomodoro, ond dylech gymryd seibiant hwy ar ôl 4 Pomodoro – 30 munud fel arfer. Gallwch addasu’r amserau hyn fel y mynnwch, ar yr amod eich bod yn glynu wrth yr egwyddor o gael seibiannau byr a seibiant hwy ar ôl pedwar Pomodoro. Er enghraifft, efallai fod gweithio am 40 munud gyda seibiannau 10 munud yn gweithio i chi, gyda seibiant hir o 50 munud (gallwch wylio rhaglen deledu neu fynd am dro). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio beth byddwch yn ei wneud ym mhob Pomodoro cyn i chi ddechrau. Gallwch brynu amserydd ar siâp tomato i’ch helpu gyda hyn (Pomodoro yw’r gair Eidaleg am domato!) ond mae fersiynau ar-lein ar gael hefyd neu gallwch lawrlwytho ap. Efallai y bydd angen i chi arbrofi i ddod o hyd i’r patrwm gorau i chi.

 

  1. Gwnewch yn siŵr bod eich nodau adolygu’n realistig – peidiwch â cheisio cynnwys gormod mewn sesiwn 25-30 munud. Efallai y bydd angen amser i gael y cydbwysedd yn iawn. I wybod mwy am bennu nodau SMART, gweler blog cynharach y Rhaglen Llwyddiant Academaidd ar bennu nodau.

 

  1. Pan fyddwch yn teimlo’n fwy parod, rhowch gynnig ar bapurau arholiad ymarfer gan amseru’ch hun. Bydd hyn yn eich helpu i nodi unrhyw feysydd mae angen eu hadolygu ymhellach a bydd yn gyfle i ymarfer ateb o fewn y terfynau amser, cyn yr arholiad go iawn. Ar ôl gwneud hyn, gallech fynd yn ôl at y dasg goleuadau traffig (Cam 2 uchod) a newid y lliwiau yn seiliedig ar ba mor barod rydych yn teimlo nawr.

 

  1. Cyn yr arholiadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â chanllawiau arholiadau Prifysgol Abertawe. Un o’r rhain yw bod rhaid i chi fynd â’ch cerdyn myfyriwr gyda chi i’r arholiadau. Gallwch ddarllen canllawiau hanfodol i baratoi ar gyfer arholiadau yma a rhestr o’r pethau hanfodol i’w gwneud a’u hosgoi yma.

 

  1. Yn olaf, ceisiwch beidio â phoeni am eich perfformiad ar ôl yr arholiad, a pheidiwch â thrafod y papur â myfyrwyr eraill. Does dim modd newid eich atebion, ac, ar yr amod eich bod wedi gwneud eich gorau, all neb ofyn mwy. Bydd eich dull adolygu’n newid drwy’r amser ac yn gwella wrth i chi ymarfer. Felly, mae’n bwysig myfyrio ar sut rydych yn dysgu, beth sy’n gweithio i chi a beth nad yw’n gweithio, er mwyn adolygu’n fwy effeithiol yn y dyfodol.

To bach

Oeddech chi’n gwybod bod ffordd hawdd iawn o roi to bach ar eich llafariaid?

to bach 2

 

Ewch yma. Cliciwch ar:

(Iaeth) Cymraeg > Cynnyrch > To bach > Lawrlwytho

to backh

Rhowch yr ychydig fanylion mae’n gofyn amdanoch a chadwch y feddalwedd.

Yr unig beth y bydd yn rhaid i chi ei wneud wedyn yw pwyso ar Ctrl + Alr a’r llythyren rydych chi eisiau to bach drosto!

 

Cris Dafis

Cymraeg Clir

Yn aml iawn, yr ysgrifennu mwyaf syml, diffwdan yw’r ysgrifennu gorau.

Mae brawddegau hir, gyda llawer o gymalau, yn aml yn gwneud darn o waith yn anodd ei ddeall. Rydyn ni’n gallu “trio’n rhy galed” weithiau!

Mae Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, wedi creu 12 Rheol Aur Cymraeg Clir. Ar gyfer dogfennau sydd wedi eu hanelu at y cyhoedd y mae’r canllawiau, ac efallai nad ydyn nhw i gyd yn gwbl berthnasol i ysgrifennu academaidd. Byddai’n werth eu cadw mewn cof wrth ysgrifennu traethodau hefyd, fodd bynnag.

Dyma 12 Rheol Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr:

12C

  1. Defnyddiwch iaith syml a chryno.
  2. Cyfarchwch eich darllenydd yn uniongyrchol.
  3. Defnyddiwch eiriau, ymadroddion a threfn naturiol y Gymraeg.
  4. Defnyddiwch frawddegau byr (dim mwy na 25 gair mewn brawddeg).
  5. Cadwch at yr egwyddor: ‘un frawddeg – un syniad’.
  6. Defnyddiwch ferfau gweithredol i wneud eich gwaith yn fwy bywiog ac uniongyrchol: e.e. Dechreuodd y cyngor 50 o brojectau yn lle Dechreuwyd 50 o brojectau gan y cyngor
  7. Ceisiwch osgoi berfau amhersonol.
  8. Defnyddiwch ferfau yn lle enwau.
  9. Defnyddiwch ferfau anffurfiol a rhagenwau.
  10. Ceisiwch osgoi iaith ‘swyddogol’ sy’n llawn jargon a thermau technegol (ac esboniwch unrhyw dermau anghyfarwydd).
  11. Rhannwch frawddegau hir yn bwyntiau byr neu’n bwyntiau bwled.
  12. Defnyddiwch atalnodi i helpu’r ystyr.

 

Cris Dafis